Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Elin Haf Davies: Noddwr a Hyfforddwr y Prosiect

Magwyd Elin Haf Davies ar fferm ym mhentref bach Y Parc, ger y Bala. Yn 18aw oed aeth i wirfoddoli i Elusen y Plant yn Leostho, De Affrica, cyn dechrau ar ei gyrfa nyrsio yn Ysbyty Plant Great Ormond Street, Llundain. Gweithiodd yno am wyth mlynedd, gan arbenigo mewn gwaith ymchwil metabolig, a graddio efo Doethuriaeth o Brifysgol Llundain (UCL).

Yn 2007 aeth Elin i weithio i Asiant Meddyginiaethau Ewrop (European Medicine Agency) i lansio deddfwriaeth newydd yn gorfodi gwaith ymchwil mewn cyffuriau newydd i blant. Treuliodd saith mlynedd yno yn gweithio yn rhyngwladol ac yn cynghori WHO

Yn ei amser personol mae Elin yn mwynhau chwaraeon eithafol. Yn 2008 llwyddodd i rwyfo 2560 milltir ar draws Cefnfor yr Iwerydd - y Gymraes gyntaf i wneud hynny. Yn 2009 yr oedd yn rhan o’r criw o ferched cyntaf erioed i rwyfo 3600 milltir ar draws cefnfor India. Cyflawnodd ei thrydydd cefnfor pan hwyliodd ar draws y Môr Tawel yn 2012. Mae anturiaethau Elin ar hyd y blynyddoedd wedi casglu dros £250,000 at elusennau.

Y mae Elin bellach yn gweithio’n annibynnol i hybu hawliau plant ag anghenion iechyd, ag i hybu pencampwyr yn ei maes. Mae’n fraint gan Elin i fod yn noddi’r fenter hon.

Am fwy o wybodaeth am Elin a'i hanturiaethau cliciwch ar:

http://www.elinhafdavies.co.uk/

Site footer